Addysgu hanes a diwylliant Cymru yn y cwricwlwm newydd

 

Mis Mehefin 2019

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Addysgu hanes a diwylliant Cymru yn y cwricwlwm newydd

Croesawa UCAC y cyfle hwn i ymateb i ymgynghoriad Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Addysgu Hanes a Diwylliant Cymru yn y Cwricwlwm Newydd.

Mae UCAC yn undeb sy’n cynrychioli athrawon, arweinwyr ysgol, tiwtoriaid a darlithwyr ym mhob sector addysg ledled Cymru.

 

1.   A fydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i addysgu hanes a diwylliant Cymru o safbwynt Cymru?

1.1.Mae UCAC o’r farn bod y Cwricwlwm newydd yn sicr yn cynyddu’r cyfleoedd i addysgu hanes a diwylliant Cymru. Drwy roi ffocws ar y ‘lleol, Cymru a’r byd ehangach’ yn anad dim byd arall mae’r disgwyliad i wneud hynny’n glir.

1.2.Tra bod y cyfle yno, mae yna bryder am allu a pharodrwydd  pob athro i wneud hyn o ‘safbwynt Cymru’.  Fel mae un o’n haelodau wedi nodi:

“Dydw i ddim yn siŵr am ‘o safbwynt Cymru’ oherwydd nid yw pob athro Hanes yn Gymro. Nid yw’r cyrsiau hyfforddi athrawon (o fy mhrofiad i) yn talu sylw i ‘ddysgu’ Hanes o safbwynt Cymru. Mae rhai ysgolion yn dysgu Jack the Ripper, Manceinion yn lle Merthyr o ran Chwyldro Diwydiannol ayyb.”

1.3.Rhaid ategu yn ogystal, nad yw pob athro ag arbenigedd yn Hanes Cymru, nad ydynt wedi astudio hanes eu gwlad wrth fynd i brifysgolion dros y ffin a’u bod yn anghyfforddus/amharod i addysgu agweddau helaeth ohono i ddisgyblion. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ‘tocenisitiaeth’ sydd ym manylebau CBAC ar hyn o bryd.

1.4.Mae angen llawer o hyfforddiant ar athrawon fel eu bod yn ddigon hyderus a mentrus, a diogonedd o gyfleoedd i rannu arfer dda ac adnoddau.

1.5.Ymhellach, mae gofid bod modd dehongli’r term ‘cenedlaethol’, sy’n cael ei ddefnyddio’n achlysurol, mewn sawl ffordd wahanol.

2.   Pa gyfleoedd fydd y cwricwlwm newydd yn eu cynnig ar gyfer addysgu hanes lleol a chenedlaethol Cymru?

2.1.Rydym fel Undeb yn hapus o weld bod cyfleoedd amlwg yn y cwricwlwm newydd i addysgu hanes lleol a chenedlaethol; mae’r ddeubeth yn amlwg yn greiddiol i’r Maes Dysgu a Phrofiad. Yng ngeiriau un aelod:

“Mi fydd paratoi ac addysgu gwersi ar gyfer y cwricwlwm newydd yn bleser. Byddaf yn falch o fedru anwybyddu gwragedd Harri’r VIII ac anghofio am yr angen i barhau â myth Churchill ‘yr arwr’. Edrychaf ymlaen yn fawr at roi’r lleol a Chymru’n ganolog i’n hanes.”

2.2.Croesawir y pwyslais ar yr hyn sy’n lleol a’r anogaeth i ymweld.

2.3.Bydd cyfleoedd amlwg i gynnig ‘Stori Cymru’.

2.4.O achub ar arbenigedd yr athrawon hynny sy’n brofiadol yn y maes, mae cyfleoedd amlwg. Mae aelodau UCAC ar hyn o bryd yn magu cysylltiadau rhwng ysgolion ac yn dechrau cyd-weithio ar brosiectau ysgol i ysgol. Er enghraifft, mae un adran Hanes yn y De-ddwyrain yn dechrau cyd-weithio ag adran Hanes yn ardal lechi'r Gogledd-orllewin. Wrth ganolbwyntio ar eu diwydiannau lleol, y bwriad yw

bod y dysgwyr yn yr ysgolion gwahanol yn gyfrifol am baratoi adnoddau i addysgu ysgol arall – efallai arwain teithiau tywys i’w gilydd – hyn yn hanes lleol a chenedlaethol.”

2.5.Mae’r Cwricwlwm newydd yn rhoi'r cyfle a’r her i ddatblygu gwaith mewn clystyrau a chryfhau’r cyswllt cynradd/uwchradd yn ogystal. Mae’n allweddol bod yr elfennau hanesyddol yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, gan adeiladu ar arbenigedd unigolion, i blant 3 i 16 a hynny mewn ffordd gydnaws.

2.6.Er hyn, rydym yn bryderus am y capasiti presennol, ac mewn rhai achosion yr awydd, i fanteisio ar y cyfleoedd.

2.7.Credwn fod angen sicrhau fod y disgwyliadau yn cael eu gwneud yn gwbl glir i athrawon, a bod disgwyl i bob ysgol fod yn llwyr ymwybodol o’u dyletswydd i wneud hyn yn effeithiol.

2.8.Ymhellach i hynny, mae UCAC o’r farn bod angen gosod rhyw fecanwaith yn ei le sy’n golygu nad oes modd ‘anwybyddu’ y pwyslais a’r disgwyliadau newydd – tra’n parchu’r rhyddid a hyblygrwydd newydd a ddaw yn sgil y cwricwlwm. Gallai hynny fod trwy arolygiadau, neu weithdrefnau atebolrwydd eraill.

2.9.Gan fod y Maes Dysgu a Phrofiad mor eang, mae peryg i’r arbenigedd hanesyddol gael ei golli, un peth yw cyflwyno ‘Stori Cymru’, peth arall yw sicrhau fod elfennau’r ddisgyblaeth ‘Hanes’ yn cael eu meithrin. Mae’n bosib iawn y byddwn yn wynebu sefyllfa lle nad oes arbenigwyr yn y sector uwchradd fydd yn gallu trosglwyddo’r hanfodion.

2.10.    Mae angen sicrhau nad yw’r cwricwlwm yn syrthio i’r un fagl â’r manylebau TGAU a Safon Uwch presennol sy’n caniatáu ‘tocenistiaeth’. Rhaid sicrhau nad Hanes Prydain hefo rhyw ychydig o gyd-destun Cymreig sy’n cael ei gynnig, ond hanes sydd yn cael ei hadrodd o bersbectif Cymreig, hefo Cymru’n ganolog.

2.11.    Mae UCAC o’r farn bod yr her o ddatblygu’r Cwricwlwm yn ddeublyg i haneswyr yn y sector uwchradd. Yn y lle cyntaf, y newid i arferiad addysgol ac addysgeg, ond hefyd, yr uwch-sgilio sy’n angenrheidiol er mwyn gallu adnabod a gweithredu’r cyfleoedd. Mae’n anorfod y bydd cost i hyn ac mae’n allweddol bod digon o amser yn cael ei roi er mwyn sicrhau’r uwch-sgilio. Bydd angen amser i ymchwilio, gan fod pryderon am ba mor dda yw gwybodaeth athrawon o ‘hanes lleol’ ( a ‘Chymreig’)go iawn. Yn ogystal, prin iawn y rhoddir sylw i hyn ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar hyn o bryd.

3.   Her ychwanegol – ac un a fydd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad cyson o ran amser – yw’r un o gyd-gynllunio rhwng athrawon ar draws y cwricwlwm, ac i raddau ar draws yr ystodau oedran, a hynny er mwyn sicrhau bod Hanes/Stori/diwylliant Cymru’n cael sylw cyson ledled y cwricwlwm ( o ran Meysydd Dysgu a Phrofiad ac o ran oedran) ond gan osgoi dyblygu.

4.   Ym mha ffordd, os o gwbl, y bydd athrawon yn cael eu cyfyngu wrth addysgu hanes a diwylliant Cymru?

4.1.Gan ddiffyg profiad ac arbenigedd:

4.1.1.   Mae diffyg hyfforddiant ac adnoddau addas yn ofid ar hyn o bryd o ran y cyfyngiadau yn y gweithlu presennol. Wrth ddeall fod y pwyslais ar ddatblygu cynhenid, oherwydd diffyg arbenigedd (athrawon nad ydynt yn haneswyr yn addysgu’r pwnc a haneswyr nad ydynt wedi’u trwytho yn hanes y wlad), mae angen buddsoddiad mawr o ran amser ac arian i sicrhau bod yr athrawon wedi eu hyfforddi’n ddigonol. Eto, mae arfer dda iawn i weld mewn sawl ysgol – ond nid dyma’r norm.

4.1.2.   Er bod meddylfryd gwahanol i raddau yn ein hysgolion Cymraeg, mae athrawon Hanes yn dueddol o fod yn awyddus i weld llwybr addysgol clir drwy amrywiaeth o adnoddau pwrpasol. Yn amlwg, nid yw’r math yma o addysgu o reidrwydd yn gydnaws ag ysbryd y cwricwlwm newydd. Hyn a hyn o adnoddau addas sydd yna i addysgu Hanes Cymru, er bod pethau’n raddol wella. Yn sicr, bydd rhai yn gweld hyn yn gyfyngiad. O gofio y bydd nifer yn gweld rhoi Hanes Cymru yn ganolog i’r cwricwlwm yn newid chwyldroadol, efallai bydd angen ystyried cefnogi’r athrawon hyn drwy roi pwyslais ar adnoddau addas, Cymru-ganolog. Yn sicr, byddai hyn yn arbennig o wir wrth ystyried unrhyw newid i fanyleb cymwysterau.

4.2.Gan y diffyg cyfle i roi ffocws ar Hanes y tu allan i Gymru:

4.2.1.   Bydd rhai yn dadlau na fydd y disgyblion yn dysgu am yr hyn sy’n digwydd y tu allan i Gymru – fel taleithiau’r De UDA efo Jonny Scopes ac esblygiad, neu bwysigrwydd y profiad ‘Prydeinig’ Brecsitaidd. Bydd rhai’n gwneud cyhuddiadau ein bod yn culhau’r Cwricwlwm, ac yn ei wneud yn anneniadol.

4.2.2.   Byddai UCAC yn anghytuno â hyn. Yn wir, rydym o’r farn bod angen ehangu’r cwricwlwm presennol fel ein bod yn rhoi byd olwg rhyngwladol i’n plant. Bu i newidiadau Gove yn Lloegr roi cymwysterau Hanes yn eu lle oedd yn mynnu ein bod yn edrych ar elfennau o Hanes Prydain mewn ffordd gul. Yn anffodus, bu i Gymru ddilyn i raddau helaeth, fel na fyddai’n cymwysterau’n cael eu gweld yn israddol, gan roi ambell i enghraifft o Gymru/Cymreig yn y manylebau yng Nghymru, fel na fyddai raid i haneswyr yng Nghymru boeni’n ormodol am brofiad y tu hwnt i’r hyn yr oeddynt yn gyfarwydd ag e ac adnoddau na fyddai’n addas i’n cymwysterau.

4.2.3.   Rydym o’r farn y byddai rhoi ffocws ar y lleol a Chymru o fewn cyd-destun rhyngwladol yn sicrhau bod ein dinasyddion ifanc yn ehangu eu gorwelion mewn ffordd eithriadol o fuddiol, a chwbl cydnaws â Phedwar Diben y cwricwlwm.

“Dylai athrawon, os ydynt yn dysgu o safbwynt Cymru fod yn meddwl am Gymru o fewn cyd-destun rhyngwladol.  Anodd peidio.

4.3.Gan fethiant y gymdeithas yng Nghymru i ddatblygu gwasg a chyfryngau sy’n rhoi Cymru’n gyntaf:

4.3.1.   Y broblem yw bod newyddion ‘rhwydwaith’ (hynny yw ‘Cymru a Lloegr’, ond mewn gwirionedd heb prin sylw i Gymru) yn dod yn gyntaf ar y BBC gyda newyddion Cymru’n dilyn. Yn wahanol i’r Alban hefyd, does gan Gymru ddim papur newydd cenedlaethol i Gymruac nid yw papurau Llundeinig yn rhoi prin dim sylw i Gymru ‘chwaith.

4.4.  Gan fethiant y gymuned sifil i gyfleu'r hunaniaeth Gymreig:

4.4.1.   Mae hyn, wrth gwrs, yn gysylltiedig â 3.3 uchod. Mae’r sefyllfa wedi gwella yn yr ugain mlynedd diwethaf, ond eto, nid yw Cymru wedi aeddfedu’n ddigonol fel nad oes cwestiynu o’r endid fel uned hyfyw. Mae rhoi Cymru mewn lle eilradd yn norm.

4.4.2.   Rhaid addysgu’r genedl, fel mae’r wladwriaeth Brydeinig wedi gwneud ers canrifoedd. Wrth dderbyn bod angen cydnabod yr hyn sydd yn ein gwneud yn debyg i wledydd eraill, rhaid hefyd dathlu’r gwahaniaethau a’r hyn sydd yn ein gwneud yn unigryw. Mae’n rhaid parhau i gyflwyno hanes, stori a diwylliant Cymru i’r genedl gyfan, nid i ddisgyblion yn unig.

4.4.3.   Mae’r profiad Albanaidd yn ddadlennol yn hyn o beth. Crëwyd Amgueddfa Genedlaethol yr Alban yn 2006. Mae stori’r Alban yn cael ei chyfleu’n hynod effeithiol drwy arteffactau, ond yn eistedd ochr yn ochr â’r canolbwynt Albanaidd mae arddangosfeydd rhyngwladol eu naws.

4.5.Gan gyfundrefn addysgol sydd â phwyslais ar atebolrwydd, a chymwysterau na fyddent o bosib yn cydnabod y newid pwyslais i roi Cymru’n gyntaf.

4.5.1.   Er bod cyfle arbennig drwy’r cwricwlwm newydd i ddatblygu cyfundrefn addysg effeithiol, mae pryder mawr ymysg aelodau nad yw’r weledigaeth o ran cymwysterau ac atebolrwydd yn glir. Yn gam neu’n gymwys, ar hyn o bryd mae athrawon uwchradd yn cael eu arfarnu ac yn cael eu cadw’n atebol ar sail canlyniadau. Er mwyn i’n hathrawon Hanes uwchradd fedru wynebu’r newidiadau â hyder, mae angen rhoi arweiniad ar gymwysterau ac atebolrwydd. Cyhuddir athrawon uwchradd yn aml o addysgu at arholiadau, ac mae hynny’n wir, dyna yw realiti’r gyfundrefn ac nid oes fawr o ddewis ond cydymffurfio â’r gyfundrefn honno. Fel Undeb, rydym yn ymwybodol bod newidiadau mawr ar y ffordd – i gymwysterau a’r trefniadau atebolrwydd – ond nid yw’r negeseuon wedi treiddio i lawr y dosbarth.

4.5.2.   O gofio’r pwyslais ar arholiadau, pa ryfedd bod y mwyafrif o athrawon Hanes yn hapus i weld newidiadau bychain i unedau manyleb Brydeinig eu natur er mwyn rhoi ‘persbectif Cymreig’. Pa ryfedd y chwaith bod eu haddysgu o flwyddyn 7 ymlaen wedi’i strwythuro fel bod gan y disgyblion y cefndir a chyd-destun cywir er mwyn llwyddo yn yr arholiadau.

4.5.3.    Rydym o’r farn y bydd penderfyniadau ac eglurder buan ynghylch cymwysterau yn gallu dylanwadu’n bositif ar barodrwydd athrawon i fabwysiadu a gweithredu’r persbectif Cymreig – ar yr amod, wrth gwrs, bod y cymwysterau hynny’n gosod y tôn cywir. Byddai rhoi ymwybyddiaeth glir o’r angen i gyflwyno cefndir a chyd-destun cyn cychwyn ar fanylebau a chyflwyno naratif Hanes Cymru o oed cynnar iawn yn fuddiol.

4.5.4.   Wrth lunio cymwysterau fyddai’n sicrhau bod ysbryd y cwricwlwm yn cael ei wireddu, byddai UCAC yn cefnogi ystyriaethau tebyg i’r hyn sydd yn eu lle yn Yr Alban. Yno mae modd dewis meysydd astudiaeth ar gyfer cymhwyster hanes yn yr ‘Higher’ o ddau faes. Mae yna bapur ar Hanes Prydeinig, Ewropeaidd neu Gydwladol (hefo lle creiddiol i’r Alban yn yr astudiaethau lle bo’n addas), ac mae yna bapur ar Hanes Yr Alban (yn ogystal ag aseiniad).

4.5.5.   Er mwyn sicrhau bod pob athro’n hapus i addysgu Hanes Cymru, rhaid wrth raglen hyfforddiant lawn, fel y cyfeiriwyd ati eisoes. Lle bo rhai ag arbenigedd yr hanesydd, prin yw eu profiad o hanes a diwylliant Cymru, tra bo eraill wedi’u trwytho yn ein hanes a diwylliant, ond nid oes ganddynt arbenigedd yr hanesydd. Rhaid sicrhau fod pob athro’n derbyn y newid ac yn teimlo’r ddyletswydd addysgiadol i addysgu’r hanes a’r diwylliant.

5.   Sut y gallai'r broses o addysgu hanes a diwylliant Cymru gael ei heffeithio gan y cam o roi mwy o ddisgresiwn i ysgolion benderfynu ar gynnwys yr hyn a addysgir?

5.1.Barn UCAC yw y gall disgresiwn fod yn fuddiol, gan ehangu’r cyfleoedd, ond bod peryg amlwg ynghlwm â hyn. Mewn rhai achosion, gallwn gael sefyllfa lle mai prin fydd y pwyslais ar hanes a diwylliant Cymru ac y gwelwn ‘tocenistiaeth’ amlwg, fel y cyfeiriwyd ati eisoes. Dyna pam fod angen sicrhau hyfforddiant lawn a bod rhoi cyfundrefn cymwysterau yn ei le yn fuan, fel yr amlinellir yn 3.5, yn allweddol.

5.2.Ar lefel ysgol, gall disgresiwn beryglu datblygiad crefft yr Hanesydd (a’r Daearyddwr, a’r arbenigwr Astudiaethau Crefyddol, ymysg eraill), gall hefyd beryglu’r pwyslais ar addysgu hanes a diwylliant. Mae’r cwricwlwm Dyniaethau’n eang, a rhestr o ddisgwyliadau hirfaith, fydd yn sicr yn rhoi her i athro lunio cynllun gwaith fydd yn cwmpasu’r holl anghenion.

5.3.Bydd modd dehongli’r cwricwlwm a’i anghenion mewn sawl gwahanol ffordd. Rydym eisoes yn gweld fod un Darparwr Addysg Gychwynnol Athrawon yn tybio y gallent sicrhau anghenion Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau i’r athrawon dan hyfforddiant yn y sector Cynradd a’r sector Uwchradd drwy gyflogi un darlithydd llawn amser, yn arbenigo mewn Astudiaethau Crefyddol. Mae peryg mawr y bydd rhai nad ydynt yn arbenigwyr yn gweld fod modd torri ac effeithioli drwy wneud penderfyniadau tebyg.

5.4.Rydym eisoes wedi gweld awdurdodau ac ysgolion yn ail-strwythuro staffio mewn ysgolion fel bod eu strwythurau’n adlewyrchu’r cwricwlwm newydd. Nid oes ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i anghenion arbenigwyr pwnc, nac i gymwysterau a’r ffaith nad yw'r rheiny yn newid am saith mlynedd. Mae hyn yn adlewyrchu’n gryf fod modd dehongli pethau’n wahanol, ac y bydd pob Pennaeth yn dehongli anghenion y cwricwlwm yn wahanol. Mae hyn yn bwydo’r ansicrwydd mawr sydd ymysg athrawon uwchradd arbenigol. A ydym yn edrych ar sefyllfa lle bydd amserlenni’n newid a chwricwlwm gwahanol mewn ysgolion gan ddileu arbenigedd Hanes, Daearyddiaeth ayyb? Neu a fydd cyfle i edrych yn fwy thematig a chyfuno arbenigedd pynciau e.e. unedau ar Ddiwydiannu Cymru, Y Rhyfel Byd Cyntaf a Chymru?

5.5.Ymhellach, mae gofid bod Penaethiaid am weld y disgresiwn yma fel ffordd o arbed arian ac o ddileu swyddi. Yn sicr, mae tystiolaeth gan UCAC fod ystyriaethau ariannol wedi bod yn ganolog wrth ddileu swyddi penaethiaid adran Hanes, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.

5.6.Gall disgresiwn gynnig her o ran sicrhau cysondeb safonau/cyrhaeddiad o gofio fod yr hyn a addysgir yn amrywio o un ysgol i’r llall. Efallai fod hyn yn gyfle i ail edrych ar y gyfundrefn safonau fel ei fod yn fwy addas i anghenion byd addysg.

5.7.Gall disgresiwn ganiatáu i athro roi blaenoriaeth i ddiddordebau personol. Gall hyn gael ei weld yn gadarnhaol ac yn negyddol, wrth gwrs.

5.8.Bydd symud ysgol/ardal yn profi’n her i athro cydwybodol, gan fydd gofyn iddynt ail ystyried cynlluniau gwaith yn llwyr.